Traphont Ddŵr Pontcysyllte yw'r draphont ddŵr fordwyadwy uchaf yn y byd a hi yw'r hiraf yn y DU.
Gallwch gerdded am ddim dros y draphont sy'n cynnig golygfeydd prydferth yn ogystal â'r cyfle i gerdded ar hyd y draphont uchaf yn y byd!
Mae'r llwybr cerdded dros y draphont ac ar hyd y gamlas yn wastad ac yn hygyrch i bawb.
Mae croeso i gŵn ond cadwch nhw ar dennyn byr os gwelwch yn dda. Mae yna gyfleusterau toiled a maes parcio mawr sy'n daladwy ac arddangos. Mae yna hefyd faes parcio ar wahân sy'n agosach at y draphont sydd wedi'i dynodi ar gyfer lleoedd parcio i bobl anabl.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Draphont Ddŵr Pontcysyllte yma.
Am lwybr cerdded hirach, gallwch gerdded o Draphont Pontcysyllte i Draphont Cefn ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr . Sylwch nad yw'r llwybr hwn i Draphont Cefn yn llwybr hygyrch i bawb.
Ffordd yr Orsaf, Trefor, Llangollen, DU