Lleoliad:
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn 5 milltir i'r gogledd o'r Bermo.
Mae yn sir Gwynedd.
Cyfarwyddiadau: Cymerwch yr A496 o Abermaw i Harlech. Ar ôl pentref Tal y Bont, trowch i'r chwith wrth yr arwydd brown i Stad Glan Môr Dyffryn a Thraeth Benar. Mae maes parcio Benar ar ddiwedd y lôn trac sengl hon (Ffordd Benar) ar ôl Stad Glan Môr Dyffryn.
Trafnidiaeth Gyhoeddus: Mae’r orsaf drenau agosaf yn Nyffryn Ardudwy, filltir i ffwrdd. Mae gwasanaeth bws o'r de (Abermaw) a'r Gogledd (Harlech) ar hyd yr A496.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Parcio: Mae maes parcio Benar yn cael ei weithredu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac mae tâl parcio.
Beic: Mae rac beiciau yn y maes parcio.
Cŵn: Mae cyfyngiadau cŵn ar ran o’r traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi.
Dyffryn Ardudwy LL44 2HD, UK