Mae PentrePeryglon yn elusen annibynnol yn Nhalacre ar arfordir prydferth Gogledd Cymru. Rydym yn ganolfan gweithgareddau diogelwch rhyngweithiol sydd wedi ennill gwobrau ac sydd ar agor yn ystod y tymor yn cynnal teithiau tywys i ysgolion a grwpiau wedi’u trefnu ac yn ystod gwyliau ysgol lleol ar gyfer diwrnod allan gwych i’r teulu.
Rydyn ni'n cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am 'ddiogelwch popeth' - ond nid yn y ffordd y gallech chi feddwl! Mae ein canolfan yn llawn hwyl a gweithgareddau ymarferol i ddiddanu pawb trwy gydol ymweliad. Wedi'i gynllunio fel set ffilm, mae ymwelwyr yn teithio o'r cartref i'r traeth, cefn gwlad, maes chwarae, fferm, a llawer o leoliadau eraill. Mae PentrePeryglon yn amgylchedd diogel lle gall plant, pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd ddysgu am risgiau a sut i gadw’n ddiogel tra, yn bwysicaf oll, gael hwyl.
Yn ystod ein hagoriadau cyhoeddus mae gennym hefyd CraftPoint, ystafell lle gall teuluoedd fod yn greadigol a mynd â’u campwaith eu hunain adref – o baentio crochenwaith a chelf tywod i Build-a-Bear, mae digon i gadw pawb yn brysur ac am bris rhesymol iawn. !
Trafnidiaeth Gyhoeddus:
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, rydym yn argymell ymweld â gwefan Traveline Cymru am amserlenni (traveline.cymru)
Bwyd:
Mae amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd ar y safle, ond dim caffi.