Mae Parc Brynkinalt yn ardal fawr o goetir cymunedol a mannau agored anffurfiol, ar gyrion y Waun. Mae gan y parc olygfeydd godidog dros y Waun tuag at fryniau'r Berwyn a Swydd Amwythig.
Ceir llethrau coediog, gydag ardaloedd helaeth o goetir brodorol wedi'u plannu a dolydd blodau gwyllt. Mae'r ardaloedd hyn yn galluogi bywyd gwyllt i ffynnu a hefyd yn annog aildyfiant naturiol coed ar y priddoedd wedi'u hadfer.
Mae'r parc hefyd yn cynnwys arteffactau mwyngloddio, wagen lo a disg torri i ddathlu treftadaeth ddiwydiannol y parc. Cyn y cloddio am lo, roedd y tir yn rhan o Brynkinalt Home Farm, ac mae cronfa ddŵr dan orchudd yn y man uchaf sy’n dal i gyflenwi’r dŵr i Neuadd Brynkinalt.
40 Highfields, Y Waun, Wrecsam LL14 5NU, DU