Mae Parc Gwaunyterfyn tua hanner milltir i'r gogledd o Ganol Tref Wrecsam ac mae'n gorchuddio 24 hectar (64 erw).
Rhoddwyd achrediad Gwobr y Faner Werdd i’r parc am y tro cyntaf yn 2016 ac mae’r parc wedi’i gynnal bob blwyddyn ers hynny.
Ar un adeg roedd y parc yn dir i Neuadd Acton ac erys llawer o nodweddion y dirwedd, a'r llyn a choed nodedig amrywiol yw'r rhai mwyaf amlwg. Mae'r parc yn cynnwys ardaloedd mawr o barcdir agored, coetir a'r llyn, yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon a chwarae. Mae yna hefyd nifer fach o ardaloedd planedig ffurfiol.
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Wrecsam: CLICIWCH YMA
Rhodfa Herbert Jennings, Wrecsam, DU